Rhieni

Lorem ipsum dolor sit amet, consectetur adipiscing elit. Nullam congue neque ac ante maximus, in dictum purus facilisis. Etiam nec porta tortor. Aliquam a gravida orci. Curabitur scelerisque, ex a mollis cursus, ex felis ornare massa, sit amet lacinia justo dui ac quam. Mauris ullamcorper velit rhoncus tellus ultrices, pretium fermentum elit pretium. Praesent leo diam, tempus iaculis nulla sed, vulputate porttitor diam. Praesent vel molestie leo, ut mollis est. Donec laoreet luctus iaculis.

Meddyginiaeth

Yr ydym yn hapus i weini meddyginiaeth i’ch plentyn yn ystod diwrnod ysgol e.e. calpol, pympiau asthma neu meddyginiaeth gwrthfiotig.

Mae rhaid i rieni/gofalwyr lenwi ffurflen meddyginiaeth cyn bod yr ysgol yn gallu gweini’r meddyginiaeth.

Os ydych yn dymuno i’ch plentyn gario a hunan-weinyddu meddyginiaeth e.e. pympiau asthma, bydd angen i chi lenwi ffurflen penodol.

Bydd angen i rieni ddod a’r meddyginiaeth i’r derbynfa yn y bore ac yna eu gasglu a’r ddiwedd y dydd.

Lluniau / Fideos / Cyfryngau Cymdeithasol

Mae’r ysgol yn defnyddio cyfryngau cymdeithasol yn ddyddiol er mwyn rhannu profiadau a llwyddiannau disgyblion. Mae hyn yn cynnwys lluniau, fideos ac enwau disgyblion. Yn achlysurol mae asiantaethau allanol yn dymuno rhannu lluniau mae disgyblion yr ysgol wedi bod yn ran ohono a’r gwefanau cymdeithasol eu hunain.

Yr ydym yn gofyn am caniatad rieni/gofalwyr yn flynyddol

Tripiau o amgylch Aberaeron

Mae’r ysgol yn manteisio ar ei lleoliad arbennig ar bob cyfle ac felly yn mynd â phlant ar ymweliadau o gwmpas y dref yn achlysurol e.e. mynd i’r goedwig, y traeth, y dref, yr harbwr neu’r parc.

Er mwyn ein galluogi i wneud hyn, mae angen caniatad rhieni / gofalwyr.

DREF.docx ddim yn bodoli

Nofio

Mae holl blant blynyddoedd 3, 4 ,5 a 6 yn mynychu gwers nofio yn wythnosol yn Pwll Nofio Aberaeron.

Mae gwers blwyddyn 3 a 4 bob prynhawn dydd Mercher

Mae gwers blwyddyn 5 a 6 a’r bryhawn dydd Iau.

Clwb Brecwast

Cynhelir y Clwb Brecwast yn ddyddiol. Mae drysau’n agor am 8 o’r gloch ac yn cau am 8:35. Codi’r tâl o £1.00 y dydd I unrhywun sydd yn cyrraedd rhwng 8:15 â 8:35. Nid yw’r clwb yn agor cyn 8:00.

Mae modd talu ar-lein am y Clwb Brecwast.

A’r gael i frecwast mae:

Tost gyda fflora taenu braster isel a jam siwgwr isel.

Grawnfwyd Brecwast – Rice Krispies, Porridge, Corn Flakes neu Weetabix heb siwgwr gyda llaeth hanner-sgim

Sudd Ffrwythau oren neu afal

Prydiau Ysgol am Ddim

Mae pob disgybl llawn-amser sy’n mynychu’r sector cynradd yng Ngheredigion wedi cael hawl awtomatig i Brydau Ysgol am ddim (UPFSM) ers mis Medi 2023.

Noder os yw’ch plentyn/plant yn mynychu’r blynyddoedd penodedig yma, ac yr ydych am dderbyn taliad y Grant Hanfodion Ysgol, fe fydd dal angen i chi gwblhau ffurflen gais am Brydau Ysgol am Ddim. Fe ddylech hefyd adael i’r ysgol wybod yn uniongyrchol os yw eich plentyn, neu blant, am dderbyn pryd am ddim bob dydd, neu os ydynt am ddod â chinio eu hunain.

Mae prydau ysgol am ddim ar gael i ddisgyblion cymwys sy’n mynychu ysgolion, yn llawn amser, a reolir gan Awdurdod Addysg Ceredigion.

Mae hyn yn cynnwys:

  • Plant iau sy’n mynychu diwrnodau llawn (oed 4+)
  • Disgyblion y chweched dosbarth

Mae’n bosibl y gall ddisgybl gael prydau bwyd am ddim os yw ei riant neu warcheidwad (hynny yw, y person sydd a gofal am y plentyn) yn cael unrhyw un o’r canlynol:

  • Cymhorthdal Incwm
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn seiliedig ar Incwm
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn gysylltiedig ag Incwm
  • Cymorth o dan Ran VI o Ddeddf Mewnfudo a Lloches 1999
  • Elfen gwarant Credyd Pensiwn
  • Credyd Treth Plant (ar yr amod nad oes gennych hawl i gael Credyd Treth Gwaith hefyd ac nad yw eich incwm gros blynyddol yn fwy nag £16,190)
  • Credyd Treth Gwaith am gyfnod ychwanegol – a delir am bedair wythnos pan nad ydych yn gymwys i gael Credyd Treth Gwaith mwyach
  • o 1 Ebrill 2019, Credyd Cynhwysol – ar yr amod nad yw incwm net blynyddol1 eich cartref yn fwy na £7,400 (fel yr aseswyd yn ôl enillion o hyd at dri o’ch cyfnodau asesu mwyaf diweddar)

Er mwyn gwneud cais, mi fydd angen i chi lenwi’r ffurflen isod.

Ffurflen Cofrestru PYDd

Derbyniadau

Yr Awdurdod Leol sydd yng ngofal derbyniadau’r ysgol. Cewch mwy o wybodaeth yn y ddolen isod.

Er mwyn gwenud cais dilynwch y ddolen isod.

Admissions Form

Dyma bolisi derbyn ysgolion Ceredigion 2024-2025 

 

Bwydlen Cinio

Isod mae bwydlen gaeaf yr ysgol. Os bydd unrhyw newidiadau, byddwn yn hysbysu rhieni trwy ParnetMail.

 

Mae’r gegin yn darparu ar gyfer ystod eang o ofynion deietegol arbennig ac yn cynnig dewisiadau  lysieuwyr bob dydd; mae gofynion disgyblion yn amrywio ac maent yn cynnwys gofynion fegan, coeliag, soia, halal a diabetig.

Mae’r gegin hefyd yn darparu prydau i ddisgyblion ag alergenau a/neu anoddefiadau i gynnyrch penodol. Mae gan wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd restr o 14 o alergenau:

  • Glwten
  • Llaeth
  • Cramenogion
  • Seleri
  • Molysgiaid
  • Mwstard
  • Wyau
  • Sesame
  • Pysgod
  • Bysedd y blaidd
  • Cnau daear
  • Cnau
  • Ffa soia
  • Sylffwr Deuocsid ar lefel uwch na 10miligram/cilogram, neu 10 miligram/litr a nodir fel SO2

Os oes gan eich plentyn ddeiet arbennig a/neu alergedd/anoddefiad i unrhyw un o’r alergenau a restrir uchod, rydym yn gofyn ichi roi gwybod i’r ysgol yn syth fel y gellir trefnu a pharatoi prydau ar gyfer eich plentyn/plant.

Class Charts

Mae’r ysgol yn defnyddio rhaglen Class Charts. Mae Class Charts yn cael ei ddefnyddio fel ffordd o ddatblygu’r cyswllt ysgol/cartref ac yn rhoi gwell syniad i chi ynglŷn â chynnydd eich plentyn.

Linc i’r wefan Access pupil details

Isod mae pecyn gwybodaeth i chi fel rieni/gofalwyr.

DIM DOGFEN 

Polisiau

Mae copiau papur o bob polisi ar gael yn yr ysgol,  os y dymunwch i’w darllen.

 

Dechrau Dosbarth Meithrin

Dosbarth Meithrin

Yn ystod yr hanner tymor cyn i’ch plentyn ddechrau yn y Dosbarth meithrin, byddwch yn derbyn gwahoddiad i fynychu bore blasu. Bydd cyfle I’ch plentyn gwrdd â staff a disgyblion y dosbarth, ymuno mewn gweithgareddau yn y dosbarth Meithrin ac hefyd ymgyfarwyddo â’r ysgol.

Tra bydd eich plentyn yn y dosbarth, cewch gyfle i gwrdd a’r athrawes Dosbarth lle gallwch ofyn unrhyw gwestiynau perthnasol sydd gennych. Cawn hefyd sicrhau bod y ffurflenni i gyd wedi eu llenwi a’r wybodaeth ddiweddaraf gyda’r ysgol.

Yma, cewch mwy o wybodaeth am y Dosbarth meithrin

Gwisg Ysgol

Crys polo coch a chrys chwys llwyd (wedi eu printio gyda logo’r ysgol)

Gaeaf: sgert / trowsus llwyd

Haf: ffrog goch gingham / sgert neu siorts llwyd

 Dillad Ymarfer Corff—t-shirt plaen coch, shorts neu drowsus du

 Dylid rhoi enw’r plentyn ar bob ddilledyn ac esgid sy’n dod i’r ysgol.

Gallwch brynu gwisg yr ysgol o GG Designs neu Piranha Print

ggdesignsonline.com

www.piranhaprint.com

 

Helpu eich plentyn

Nessy –  learn.nessy.com

Numbots – play.numbots.com

TT Rockstars – play.ttrockstars.com

Speakr – https://2281.speakr.co.uk/sign_in

Oxford Reading Buddy – Oxford Reading Buddy

Gwybodaeth i rieni Oxford Reading Buddy

Mathletics – https://login.mathletics.com

Darllen Co – llwyfan.darllenco.cymru/login